Bae Caerdydd (Awdurdod Harbwr Caerdydd CCA3.0)
Mae’r awdurdodau wedi croesawu cosb o £300 i  hwyliwr o Gaerdydd am fod yn feddw wrth lyw ei gwch.

Hwn oedd y tro cynta’ i Awdurdod Harbwr Caerdydd ddod ag achos o’r fath ac maen nhw wedi pwysleisio bod angen bod yn ddiogel a chyfrifol wrth ddefnyddio Bae Caerdydd.

“Dyw alcohol a dŵr ddim yn cymysgu,” meddai Harbwrfeistr Caerdydd, Andrew Vye-Parminter.

Yr achos

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ddechrau’r wythnos fod staff yr harbwr wedi gorfod cynorthwyo, Nicholas Hodges, i angori ei gwch, y Lutra, ar 8 Ionawr eleni.

Cyfaddefodd ei fod wedi methu â rheoli ei gwch pan oedd dan ddylanwad alcohol a’i fod wedi llywio ei gwch mewn modd peryglus – roedd hynny’n groes i ddwy o is-ddeddfau Awdurdod yr Harbwr.

“Mae ein his-ddeddfau yno i reswm – i gadw pawb yn ddiogel ar y dŵr,” meddai Andrew Vye-parminter.

“Diolch i’r drefn, chafodd neb niwed yn y digwyddiad hwn ond gallai yn hawdd fod wedi bod yn fater gwahanol.”

Fe fydd rhaid i Nicholas Hodges hefyd dalu costau o £200.