Mae tŷ yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei archwilio yn gysylltiedig â’r ymosodiad brawychol yn Llundain ddydd Mercher.

Mae wyth person, tri menyw a pum dyn, yn parhau i fod yn y ddalfa yn dilyn cyfres o gyrchoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Gwnaeth yr heddlu rhyddhau gwybodaeth bellach am yr ymosodwr Khalid Masood ddydd Iau gan ddatgelu bod y dyn 52 yn wreiddiol o Gaint ac wedi mynd dan yr enw Adrian Elms, cyn iddo droi at Islam.

Roedd heddlu a’r gwasanaeth cudd yn ymwybodol ohono ond nid oedd dan ymchwiliad yn gysylltiedig ag ymosodiad frawychol.

Munud o dawelwch

Cafodd pedwar person eu lladd gan yr ymosodwr gan gynnwys dyn 75 oed; y plismon, Keith Palmer; ymwelydd o’r Unol Daleithiau o’r enw Kurt Cochran; ynghyd ag Aysha Frade, a oedd yn fam i ddwy ferch.

Mae pum person o hyd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad wnaeth niweidio hyd at 40 o bobol.

Cafodd munud o dawelwch ei barchu ledled gwledydd Prydain ddydd Iau, ac fe ddaeth torf ynghyd ar gyfer gwylnos yn Sgwâr Trafalgar, Llundain.