Port Talbot (Llun: Chris Shaw CCA 2.0)
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi cynllun i adeiladu carchar Cymreig newydd ym Mhort Talbot.

Bydd y carchar yn cael ei adeiladu fel rhan o gynllun i greu pedwar carchar newydd yng Nghymru a Lloegr gan greu 5,000 o leoedd newydd i garcharorion.

Gobaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw bydd y cynllun £1.3 biliwn yn arwain at greu 2,000 o swyddi newydd yn niwydiannau adeiladu a chynhyrchu Cymru a Lloegr.

Ynghyd â safleoedd yn Swydd Efrog, Wigan a Kent, bydd carchar Port Talbot yn cyfrannu at nod Llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu 10,000 o leoedd newydd i garcharorion erbyn 2020.

Daw’r cyhoeddiad ychydig wythnosau wedi i garchar y Berwyn agor yng Ngogledd Cymru – carchar sydd yn dal 2,000 o garcharorion.

“Bydd y cynllun adeiladu sylweddol yma yn helpu sefydlu ystâd carchar modern lle fydd modd gwella carcharorion a hefyd bydd yn cynnig buddion economaidd i’r gymuned leol gan greu cannoedd o swyddi i bobol leol,” medd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Liz Truss.