Aeth criw o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i Neuadd Pantycelyn neithiwr i ddangos eu hanfodlonrwydd bod Adran Ystadau’r Brifysgol wedi symud eu swyddfeydd yno.

Mae lluniau’n dangos tâp ar ddrysau cyn ystafelloedd myfyrwyr pan oedd y neuadd yn llety cyfrwng Cymraeg, gydag arwyddion ‘Dim mynediad’ arnyn nhw.

Bu wyth myfyriwr yn rhan o’r weithred ac mae’n debyg eu bod yn anhapus dros y pum ystafell ychwanegol sydd wedi’u cymryd gan yr Adran Ystadau.

“Mi gafodd Ystadau gytundeb i ddefnyddio’r Ffreutur am chwe mis, mae’r dyddiad terfyn ar hyn wedi cael ei estyn gan fis yn barod, yn erbyn y cytundeb,” meddai Jeff Smith o ymgyrch y myfyrwyr.

“Maen nhw wedyn wedi cymryd pum ystafell ychwanegol ar y llawr gwaelod ac wedi rhoi cloeon arnyn nhw heb ymgynghori â neb. Roedd y rhain yn ystafelloedd gwaith UMCA gyda chyfrifiaduron.”

Mae golwg360 wedi gweld ebyst rhwng Dr Rhodri Llwyd Morgan, dirprwy is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol, a’r myfyrwyr, sy’n dweud nad oedd yn ymwybodol bod yr adran Ystadau wedi cymryd yr ystafelloedd ychwanegol.

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

“Symudodd staff Adran Datblygu Ystadau’r Brifysgol i mewn i Bantycelyn ddechrau mis Mawrth a hynny am gyfnod byr o chwe mis,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth.

“Mae’r staff wedi eu lleoli yn y Ffreutur ond cyn iddyn nhw symud yno, fe wnaeth y Brifysgol ymgynghori gydag UMCA.

“Cafodd yr adleoli dros dro ei drafod gyda’r Llywydd yn ogystal ag yn ystod cyfarfod cyffredinol UMCA ddechrau Chwefror. Fe bleidleisiodd y mwyafrif o blaid, yn amodol ar gael dyddiad gadael pendant ac fe anfonodd y Brifysgol lythyr pellach yn cadarnhau y byddai’r staff yn adleoli i swyddfeydd ar gampws Penglais yn yr hydref.

“Ers symud, mae’r Adran Ystadau wedi bod yn defnyddio pum ystafell fach ger y Ffreutur i storio offer swyddfa megis llungopïwr a pheiriant argraffu. Nid oedd hyn yn rhan o’r drafodaeth wreiddiol gydag UMCA ond mae’r Adran bellach wedi egluro pam eu bod angen defnyddio’r pum ystafell fach yma.

“Mae ystafelloedd gwaith eraill gyda chyfrifiaduron wedi’u darparu i fyfyrwyr ac mae ystafelloedd cyfarfod y neuadd yn parhau ar agor at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol.”