Cerys Yemm (Llun: Heddlu Gwent)
Mae cwest wedi clywed recordiad o alwad frys gan berchennog gwesty yn rhybuddio bod ymosodwr yn bwyta dynes ifanc yng Nghaerffili.

Fe ymosododd Matthew Williams, 34, ar Cerys Yemm, 22, yn ystod oriau mân y bore Tachwedd 6 2014 ar lawr cyntaf gwesty’r Sirhowy Arms yn Argoed, Sir Caerffili.

Bu farw Cerys Yemm o’i hanafiadau, ac wrth arestio Matthew Williams – a gafodd ei saethu sawl gwaith â taser – bu farw yntau yn ddiweddarach yr un diwrnod.

Yn ystod recordiad o’r gwnaeth y rheithgor glywed perchennog y gwesty, Mandy Miles, yn gwaedu “o Dduw” a’n dweud bod yr ymosodwr “wedi rhoi sgriwdreifer trwy ei hwyneb ac yn ei bwyta.”

Fe welodd aelodau’r rheithgor hefyd ddarn o ffilm teledu cylch cyfyng oedd yn dangos y pâr yn cyrraedd y gwesty tua chanol nos, ac ymateb cyd breswylwyr i’r ymosodiad.

Mewn datganiad cafodd ei ddarllen yn Llys y Goron Gwent yng Nghasnewydd dywedodd mam Matthew Williams, Sally Ann Williams, bod ei mab â sgitsoffrenia a heb dderbyn cymorth wedi iddo adael y carchar.