Llys y Goron Birmingham
Fe fydd cyn-bencampwraig rhedeg mynydd o Bowys yn cael ei dedfrydu heddiw ar ôl iddi bledio’n euog i gyhuddiad o geisio llofruddio dyn.

Fe fydd Lauren Jeska, 41 oed, o Deras Wesley ym Machynlleth yn ymddangos gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth.

Roedd hi wedi pledio’n euog i gyhuddiad o geisio llofruddio’r cyn-chwaraewr rygbi Ralph Knibbs, pennaeth adnoddau dynol Athletau’r Deyrnas Unedig.

Cafodd Ralph Knibbs, 51 oed, ei drywanu yn ei ben a’i wddf yn swyddfeydd y corff ym Mirmingham ar 22 Mawrth y llynedd gan arwain at anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd.

Roedd dau ddyn arall oedd yn gweithio yn y swyddfa, Timothy Begley a Kevan Taylor, wedi cael man anafiadau ar ôl ceisio helpu Ralph Knibbs.

Cyllell

Mae Lauren Jeska eisoes wedi cyfaddef dau gyhuddiad o fod a chyllell mewn man cyhoeddus ond mae’n gwadu bod a chyllell arall yn ei meddiant y cafwyd hyd iddi mewn bag ar ôl yr ymosodiad ar Ralph Knibbs.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron roedd Lauren Jeska wedi gyrru o’i chartref ym Machynlleth i Firmingham a phan ofynnwyd iddi aros yn y dderbynfa yn swyddfeydd Athletau’r DU fe aeth i ran arall o’r swyddfa a thrywanu Ralph Knibbs.

Dywed erlynwyr bod yr ymosodiad yn dilyn ffrae gyda swyddogion Athletau’r DU.

Cafodd profion seicolegol eu cynnal cyn i’r athletwraig gael ei dedfrydu.

Fe fydd yn cael ei dedfrydu gan y Barnwr Simon Drew QC heddiw.