Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae’n amser yn awr i Gymru hefyd gael “trafodaeth genedlaethol” am ei dyfodol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Daw sylwadau Leanne Wood yn dilyn cyhoeddiad Nicola Sturgeon ei bod yn bwriadu cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Yn ôl Leanne Wood, mae hyn yn gyfle i Gymru “drafod” ei dyfodol hefyd.

“Mae angen dadl genedlaethol i archwilio’r holl opsiynau, gan gynnwys Cymru annibynnol, pan fydd y sefyllfa honno’n dod yn un realistig,” meddai Leanne Wood.

Endid ‘Cymru a Lloegr’

Dywedodd Leanne Wood nad yw sefyllfa sy’n golygu endid ‘Cymru a Lloegr’ yn unig yn rhan o’r fargen fis Mehefin diwethaf.

“Mae Plaid Cymru’n credu fod penderfyniadau am Gymru yn well o’u gwneud yng Nghymru ac mae’r ffordd y mae Brexit Caled yn mynd rhagddo yn amlygu’n union pam,” meddai.

“Mae nawr yn amser da i bobol yng Nghymru feddwl beth yw ein diddordebau cenedlaethol ein hunain a sut allwn ni ddatgloi’r potensial gorau i’n gwlad yn y sefyllfa gyfansoddiadol newydd hon.”

Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, fe wnaeth Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin gyda 52.5% o’r bleidlais.

‘Gryfach gyda’n gilydd’ – Carwyn Jones

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Prif Weinidog yn glir bod y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig yn gryfach gyda’n gilydd nag ar wahân.”

Er hyn dyweddodd y llefarydd, “mae dyfodol cyfansoddiadol yr Alban yn fater i bobol yr Alban.”

Beirniadaeth Andrew RT Davies

Ac wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi  cyhuddo Nicola Sturgeon o roi buddiannau plaid yr SNP o flaen buddiannau’r Alban.

“Fel eu cyd genedlaetholwyr Plaid Cymru, dim ond un peth mae’r SNP eisiau: annibynniaeth,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’n bryd i’r SNP roi buddiannau cenedlaethol o flaen eu buddiannau cenedlaetholgar eu hunain,” ychwanegodd.

“Heb wrando”

Yn ôl Dr Huw Pritchard, darlithydd yn y Gyfraith a Llywodraethiant Ddatganoledig ym Mhrifysgol Caerdydd,  mae methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys y cenhedloedd datganoledig yn nhrafodaethau Brexit wedi cryfhau dadl Nicola Sturgeon dros gynnal ail refferendwm.

“Y broblem roedd Nicola Sturgeon yn cyfeirio ati heddiw oedd bod Theresa May a Llywodraeth Prydain heb wrando ar yr Alban yn y trafodaethau Brexit, ac mewn ffordd roedd hi’n dweud os nad ydych chi’n gwrando arnom ni ac yn cymryd ein safbwynt o ddifrif, yna mi allwn ni fynd lawr y trywydd yma ac mi allwn ni alw am refferendwm arall,” meddai.

“Felly mewn ffordd mae’n dangos bod y broses o drafod Brexit ar hyn o bryd ddim yn gweithio ac yn ôl Nicola Sturgeon, dydy Llywodraeth Prydain ddim yn cymryd sylw o rannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.”