Mae cyrff llywodraeth leol Cymru yn “dal i wynebu heriau” o ran paratoi a chyflwyno eu cyfrifon, yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, er bod gwelliant wedi bod yn safon datganiadau ariannol rhwng 2014-2015 a 2015-2016, mae archwilwyr yn parhau i ddarganfod gwallau.

Wrth wynebu caledi ariannol a therfynau amser cynharach ar gyfer cyflwyno datganiadau ariannol, mae’r adroddiad yn rhybuddio y gall cyrff llywodraethu leol wynebu fwy o her yn y dyfodol wrth baratoi eu cyfrifon.  Ond mae swyddfa’r Archwilydd hefyd yn rhybuddio bod yn rhaid i gynghorau sicrhau eu bod yn byw “o fewn eu modd”.

Daw’r ddogfen yn sgil adroddiad fis Ionawr oedd yn nodi bod 200 o gynghorau cymunedol ‘angen gwella rheolaeth ariannol a llywodraethu‘.

Mynd i’r afael â materion

“Mae’n dda gweld bod awdurdodau lleol yn gwella o ran paratoi eu datganiadau ariannol – ac yn brydlon,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas.

“Ond, ceir materion sydd angen mynd i’r afael â hwy o hyd, a gobeithiaf y bydd yr adroddiad hwn yn annog rhagor o welliant, yn enwedig ar adeg pan mae gwasanaethau a therfynau adrodd yn mynd yn fwy anodd.”