Llifogydd yn Y Rhyl (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw grant cyfalaf gwerth £32m fydd yn cyfrannu at ddiogelu tai a busnesau yn erbyn llifogydd.

Bydd yn cyfrannu at leihau’r risg o lifogydd i dros 2,100 o gartrefi a busnesau ledled Cymru rhwng 2017 a 2018.

Dros ei thymor pum mlynedd, gobaith y Llywodraeth yw buddsoddi dros £144m i reoli’r perygl o lifogydd gyda £1m o’r gyllideb yn cael ei chyfrannu bob blwyddyn i gefnogi prosiectau cynnal a chadw Awdurdodau Lleol.

Mae £150m eisoes wedi ei chyfrannu tuag at raglen arfordirol gyda £5m ohono yn cyfrannu tuag at leihau’r risg o lifogydd arfordirol.

“Rydyn ni’n gwybod bod yr hinsawdd a phatrymau’r tywydd yn newid ac y byddwn yn debygol o weld mwy o lifogydd o’r herwydd,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mae angen inni felly gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r risg i’n cymunedau ond gan eu helpu hefyd i addasu i’r peryglon sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.”