Dale McIntosh (Llun: Clwb Rygbi Pontypridd)
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Dale McIntosh wedi cael dirwy am ymateb yn ymosodol i sylw hiliol mewn bar.

Cyfaddefodd cyn-wythwr Cymru a Phontypridd iddo daflu ergydion at unigolyn mewn bar yn Sir Ddinbych.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno ei fod e wedi bod yn destun cyfres o sylwadau hiliol tra ei fod e’n yfed mewn bar yn Y Rhyl ym mis Chwefror.

Cafodd ddirwy o £350 gan y llys, ac fe ymddiheurodd am ei ymddygiad.

Mae Dale McIntosh bellach yn hyfforddi Clwb Rygbi Merthyr.