Llun: PA
Mae cynhadledd yn cael ei chynnal heddiw yn Stadiwm Dinas Caerdydd i drafod goblygiadau Brexit ar Gymru a gweithwyr y trydydd sector, sef Gofod3.
Mae’r gynhadledd yn ymateb i arolwg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) sy’n dangos bod 61% o weithwyr mudiadau trydydd sector Cymru yn ffafrio Brexit meddal, ac 16% yn ffafrio Brexit caled.
Mae ‘Ciparolwg ar Brexit’ wedi casglu barn mwy na 3,000 o fudiadau ar draws Cymru a bydd yn cael ei drafod yn fanylach heddiw gyda chyfraniadau gan Jonathan Edwards AS, Rachel Minto o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac aelod o Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Arolwg
Mae’r arolwg wedi holi pobol sy’n gweithio i fudiadau sy’n aelodau o’r WCVA gan ddangos fod awydd i warchod hawliau dynol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol a chyfleoedd am gyllid.
Mae hefyd wedi dangos fod mwy yn credu na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diogelu buddiannau Cymru wrth gynnal trafodaethau am Brexit.
‘Cyfiawnder cymdeithasol’
“Mae 2016 wedi newid y ffordd rydym yn gwneud busnes yng Nghymru am byth, ac mae hynny’n wir am y trydydd sector hefyd,” meddai Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA.
“Mae ein Ciparolwg ar Brexit yn dangos bod cyfiawnder cymdeithasol a chynnydd cymdeithasol yn bwysig dros ben i bobol sy’n gweithio i fudiadau sy’n aelodau o WCVA,” meddai.
“Mae hyn yn cynnig cipolwg defnyddiol y byddwn yn ei gynnwys mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin i drafodaethau Prydain,” ychwanegodd.
Mae’r trydydd sector yng Nghymru werth tua £3.7bn i economi Cymru ac mae’n cynnwys mwy na 33,000 o fudiadau a bron miliwn o wirfoddolwyr.