Mae’r A470 ynghau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng Llanelltud a Thrawsfynydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Y Ganllwyd.
Mae rhybudd i yrwyr cerbydau mawr na fydd rhai o’r ffyrdd cyfagos yn addas ar eu cyfer.
Mae gyrwyr i gyfeiriad y gogledd yn cael eu cynghori i adael yr A470 ger Dolgellau a mynd ar hyd yr A494 i’r Bala, ac ymuno â’r A4212 cyn ail-ymuno â’r A470 yn Nhrawsfynydd.
Mae disgwyl i’r ffordd fod ynghau am beth amser.