Fe gafodd Neil McEvoy groeso heddiw gan rai o aelodau Plaid Cymru wrth iddo gyrraedd cynhadledd y Blaid yng Nghasnewydd.

Mae’r Aelod Cynulliad a chynghorydd ar Gyngor Caerdydd wedi codi dadl o fewn ei blaid ar ôl i Banel Dyfarnu Cymru ei gael yn euog o fwlio aelod o staff.

O ganlyniad, mae wedi’i wahardd rhag bod yn gynghorydd am fis ond mae Neil McEvoy wedi dweud bod y penderfyniad yn annheg ac mae wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn.

“Diolch am ddod yma. Dw i’n credu bod pawb yn gwybod bod ddoe wedi bod yn sham, yn sioe wleidyddol Llafur, doeddwn i ddim yn gallu galw tystion, doedd dim datguddiad llawn o’r e-byst,” meddai wrth ei gefnogwyr.

“Mae fy margyfreithiwr yn dweud wrtha i bod gen i sail dda i apelio a bydda’ i yn apelio. Mae’r blaid hon am chwalu’r wladwriaeth un blaid yng Nghymru. Dyna beth ry’n ni’n mynd i wneud.”

“Dydw i ddim yn euog”

Wrth ymateb i alwadau ei gyd Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, na ddylai annerch y gynhadledd heddiw, dywedodd “mai Bethan yw Bethan.”

“Bydda i’n apelio, dydw i ddim yn euog o fwlio. Roeddwn i wedi fy nghael yn euog gan dri pherson cafodd eu penodi gan y Prif Weinidog a doedden nhw ddim yn fodlon i fi alw am dystion,” ychwanegodd.

“Rydw i wedi fy nghael yn euog heb allu cyflwyno’r dystiolaeth roeddwn i am ei roi.”

Penderfyniad disgyblu

Fe wnaeth Plaid Cymru ganiatáu i Neil McEvoy siarad yn y gynhadledd heddiw gyda dwy o’r gynulleidfa yn cerdded allan wrth iddo ddechrau ar ei araith, gan weiddi “gwarth!”

Mae golwg360 yn deall y bydd penderfyniad ar ei wahardd o grŵp Plaid Cymru neu beidio yn cael ei wneud o fewn y dyddiau nesaf.

Doedd Neil McEvoy ddim am gynnig sylw ar y penderfyniad hwnnw.