Hilda Ann Blythin (Llun y teulu trwy law Heddlu Gogledd Cymru)
Mae teulu’r ddiweddar Hilda Ann Blythin wedi bod yn talu teyrnged iddi, yn dilyn ei marw mewn damwain ffordd yn nhre’ Abergele ddydd Iau.

“Rydan ni wedi torri’n calonnau o golli Hilda,” medden nhw mewn datganiad.

“Roedd hi’n wraig, yn fam ac yn nain. Roedd hi’n llawn bywyd ac yn gymeriad go iawn. Roedd hi’n ddynes hael, yn ffeind, ac yn falch.

“Roedd hi hefyd yn ysbrydoliaeth i nifer o bobol eraill,” meddai’r datganiad, “ac roedd hi’n meddwl y byd o’i theulu.”

Mae’r ymchwiliad i’r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad yn parhau, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion.