Bydd ymchwiliad cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru traffordd yr M4 ger Casnewydd yn dechrau ddydd Mawrth.

Roedd disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ym mis Tachwedd y llynedd ond fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi ac Isadeiladd, Ken Skates ei fod wedi cael ei ohirio. Mae disgwyl i’r ymchwiliad ddechrau ar ddydd Mawrth, 28 Chwefror.

Yn ôl BBC Cymru,  mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi mynegi pryder am y posibilrwydd y gall y cynlluniau i uwchraddio’r draffordd arwain at ddinistrio safle nythu cyntaf garanod yng Nghymru ers dros 400 mlynedd.

Yn ôl y RSPB dim ond un enghraifft ymysg nifer yw hyn, gyda’r elusen gwarchod adar yn dadlau bod nifer o enghreifftiau eraill o ddifrod amgylcheddol posib wedi eu hamlinellu mewn adroddiad ecolegol gan y Llywodraeth.

Cynllun £1bn

Os caiff y cynllun £1 biliwn ei gymeradwyo mae disgwyl y bydd gwaith ar yr heol yn dechrau yng Ngwanwyn 2018 ac yn dod i ben yn yr Hydref 2022.

Byddai’r datblygiad i’r de o Gasnewydd yn cynnwys ailddosbarthu traffordd bresennol yr M4 yn gefnffordd, cysylltiad M4/M48/B4245 newydd a seilwaith cerdded a beicio.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriad y cynllun yw mynd i’r afael â phroblemau “cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd” yr M4.

Hefyd caiff ehangu’r heol ei weld fel “rhan allweddol o’r weledigaeth ar gyfer sustem drafnidiaeth effeithlon ac sydd wedi ei integreiddio, yn ne Cymru.