Dean Cronin
Mae dau leidr wedi eu carcharu am ddwyn ceir drudfawr yn dilyn ymgyrch gan Heddlu’r De i’w dal wnaeth bara am chwe mis.

Bu Dean Cronin, 41, a Daniel Gordon, 28, yn dwyn ceir moethus ledled y de trwy dorri mewn i dai pobol tra’r oedden nhw’n cysgu, a dwyn eu hallweddi.

Heb iddyn nhw sylwi, bu’r troseddwyr yn dwyn ac yn gwerthu ceir gan swyddogion heddlu oedd yn eu dilyn fel rhan o Ymgyrch Red Anvil.

Rhwng Mehefin a Thachwedd 2016 bu’r ddau droseddwr yn gwerthu ceir gwerth £100,000 am gyfanswm o lai na £5,400.

Bu’r lladron o Gaerdydd yn dwyn ceir o Benarth, Cathays, Llanisien a Chaerffili ac ar un achlysur cafodd car Mercedes gwerth £31,000 ei werthu am £1,200.

Haeddu bod dan glo

Cafodd y troseddwyr eu dal yn ystod ymgyrch a gafodd ei chynllunio o flaen llaw ar Ionawr 3, a phlediodd y ddau yn euog yn Llys yr Ynadon Caerdydd ar Ionawr 4.

Bydd Dean Cronin yn treulio tair blynedd a hanner dan glo tra mae Daniel Gordon yn wynebu 20 mis mewn carchar.

“Mae’r ddau unigolyn yma yn haeddu treulio amser dan glo, a hoffwn gadarnhau bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal yn bresennol i sicrhau y bydd dedfrydau pellach am fyrgleriaeth,” meddai’r Ditectif Arolygydd Dean Taylor.