Er mwyn dathlu pen-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 20 oed eleni, bydd sioe lyfrau fwya’r byd yn cael ei chynnal yn y Barri.

Y llynedd, cafodd y sioe ei chynnal yn Abertawe gyda 600 o blant – ond bydd y trefnwyr yn ceisio torri’r record eleni gyda 700 o blant rhwng 8 a 13 oed yn ymgynnull yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo’r Barri ar Fawrth y cyntaf.

Bydd chwe awdur a darlunydd blaenllaw yn y sioe, sef Steven Butler, Abi Elphinstone, Jim Smith, Cathy Cassidy, Martin Brown ac Eloise Williams.

Y neges eleni yw “gwneud rhywbeth difyr” i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n digwydd ar yr ail o  Fawrth, lle mae plant ledled Cymru fel arfer yn gwisgo fel eu hoff gymeriadau o lyfrau.

Darlith flynyddol

Yn narlith flynyddol Diwrnod y Llyfr eleni, yn y Pierhead yng Nghaerdydd, bydd Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl lenyddol y Gelli, yn cynnal darlith o’r enw  ‘Dychmygwch y byd: Hanes am lyfrau a gwyliau’.

Bydd trefnwyr hefyd yn annog pobol i dynnu llun o’u hunain â’u hoff lyfr, a’i roi ar wefannau cymdeithasol, gyda’r hashnod #hunlyfr, gyda gwobr am yr hunlun gorau.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n anodd credu bod Diwrnod y Llyfr yn ugain oed eleni. Am esgus gwych i fwrw golwg yn ôl dros y cyfoeth o lyfrau a straeon sydd wedi eu cyhoeddi a’u mwynhau yn ystod y cyfnod hwn! Wrth ddathlu a rhannu straeon gallwn ysbrydoli ac annog eraill i wneud yr un peth.

“Ein bwriad yn syml, yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu’n dal llyfr, ac i lwytho’r llun ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnodau #hunlyfr #diwrnodyllyfr20.

“Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math.”