Mae un o’r pontydd sy’n croesi o’r tir mawr i Ynys Môn, wedi cau oherwydd gwyntoedd Storm Doris; ac mae dwy bont amlwg arall yng Nghymru hefyd yn rhwystro ceir rhag croesi.

Mae Pont Sir y Fflint, ger Cei Conna, hefyd heddiw wedi cau, yn ogystal â Phont Cleddau yn Sir Benfro.

Mae Pont Britannia yn aml yn cynghori gyrwyr lorïau a charafanwyr i beidio â chroesi mewn gwyntoedd cryfion, ond does neb yn cael croesi heddiw, ac mae cymudwyr o’r ddwy ochr wedi bod yn sownd mewn tagfeydd.

Mae heddluoedd Cymru wedi cynghori teithwyr i feddwl ddwywaith cyn mentro o’r ty heddiw, ac i beidio â chychwyn ar siwrneiau oni bai eu bod nhw’n hanfodol.