Dyfrig Jones
Mae cyn-aelod o Awdurdod S4C wedi dweud bod angen ail-agor y gystadleuaeth i roi cartref newydd i bencadlys S4C.

Prifysgol y Drindod Dewi Sant sydd wedi ennill y ras i roi cartref newydd i’r Sianel Gymraeg.

Ond ers cael eu dewis gan S4C mae’r Brifysgol wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am £6miliwn ar gyfer codi adeilad Yr Egin a fyddai yn cynnwys pencadlys S4C.

Tra mae’r Aelodau Cynulliad Adam Price a Simon Thomas o Blaid Cymru wedi mynnu bod angen rhoi’r £6 miliwn at godi’r Egin, mae gwleidyddion y Blaid yn y gogledd yn dadlau nad ydy’r fenter bellach yn ‘gost niwtral’.

Hefyd maen nhw wedi beirniadu S4C am ymrwymo i dalu £3 miliwn o rent i’r Brifysgol rhag-blaen, ac maen nhw am weld y pencadlys yn mynd i Gaernarfon.

Nawr mae cyn-aelod o Awdurdod S4C, sydd hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, wedi dweud wrth golwg360 bod angen rhoi cyfle i bob un o brifysgolion Cymru wneud cais i gael pencadlys y sianel yn eu hardal nhw.

“Dw i’n meddwl y dylid ail-agor y gystadleuaeth,” meddai Dyfrig Jones sy’ wedi cynhyrchu rhaglenni i S4C yn y gorffennol ac sydd bellach yn ddarlithydd cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

“Dw i’n siŵr y byddwn ni ym Mangor yn gallu gwario £6 miliwn ar adeilad newydd, dw i’n siŵr y bydda’ Aberystwyth, Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Glyndŵr [yn gallu gwneud yr un peth].

“Oherwydd y problemau efo cynllun Yr Egin, dw i’n meddwl dylai S4C fod yn edrych eto ac yn ail-agor y gystadleuaeth ac yn edrych o ddifri’ pa un yw’r opsiwn mwyaf cynaliadwy iddyn nhw.”

Dywedodd nad oedd prosiect Yr Egin Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin “bellach yn dal dŵr”.

Pwysau ar gyllideb y Gymraeg?

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi gwneud cais am £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru at y gost o godi’r Egin, sef £12miliwn.

Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ar y cais eto, mae sôn bod Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi gobeithio cael y £6miliwn o gyllideb Addysg y Llywodraeth.

Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi gwrthod hynny a bod pwysau bellach ar i Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, ildio a defnyddio rhan o’i gyllideb ar gyfer y prosiect.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai yn dderbyniol o gwbl i’r Llywodraeth fod yn dyfarnu £6 miliwn i’r Drindod Dewi Sant ar gyfer cynllun fel hyn heb fod yna ryw fath o gystadleuaeth agored,” meddai Dyfrig Jones.

“[Mae] Alun Davies rŵan yn cael ei roi mewn lle anodd iawn a dw i’n meddwl bod hi’n annheg iawn disgwyl iddo fo fod yn ariannu hyn.

“Cyllideb gymharol fechan sydd yna i’r iaith Gymraeg, ond mae’n gorfod mynd yn bell iawn. Dw i ddim yn gweld cyswllt rhwng ariannu’r Egin a pharhad yr iaith Gymraeg.”

Angen symud, ond i le?

Mae Dyfrig Jones, sy’n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, yn cytuno y dylai S4C symud o Gaerdydd.

“Dydw i ddim yn gwrthwynebu’r ffaith fod S4C yn awyddus i leoli ei phencadlys yng Nghaerfyrddin, dw i’n meddwl bod ei lleoli yng Nghaerfyrddin yn grêt, well nac yng Nghaerdydd.

“Ond y broblem ydy, nid y lleoliad, ond y llanast llwyr ynglŷn â’r adeilad maen nhw’n gobeithio lleoli yng Nghaerfyrddin.”

A oes perygl i’r ddadlau rhwng Plaid Cymru’r de a Phlaid Cymru’r gogledd ar fater pencadlys S4C niweidio’r blaid?

“Rydan ni’n gallu anghydweld ar bwyntiau gwleidyddol ond gwybod ein bod ni gyd yn symud i’r un cyfeiriad yn y pendraw,” meddai Dyfrig Jones.

“Mi fedrwn ni anghytuno yn gwrtais ac yn barchus efo’n gilydd heb ddadl.”