Tan glaswellt yn Ynyshir yn 2015 (Llun Gwasanaeth Tan De Cymru)
Mae pedwar o bob pump tân glaswellt yng Nghymru’n cael eu cynnau’n fwriadol, yn ôl ystadegau newydd gan y Llywodraeth.

Roedd yna 3,216 o danau glaswellt yn 2015-16 – cynnydd o 23% ar y flwyddyn gynt, yn ôl y Bwletin Ystadegau diweddara’.

Roedd tua 2,600 ohonyn nhw wedi eu cynnau’n fwriadol a hynny’n gynnydd o bron draean.

Roedd plant mor ifanc ag 11 oed wedi cael eu harestio am achosi tanau ac, yn ôl y gwasanaethau brys, fe fydd cynnydd bob tro adeg gwyliau ysgol.

Y cefndir

Mae’r categori ‘tanau glaswellt’ yn cynnwys tanau mewn porfa, tir diffaith a rhostir – y tri math o le lle mae’r llosgi’n digwydd amla’.

Yn ogystal ag achosi difrod, mae’r tanau’n gallu peryglu adeiladau a phobol, meddai’r gwasanaethau, sy’n dweud bod y broblem yn fwy mewn ardaloedd fel Cymru lle mae llawer o dir agored heb ei ffermio’n ddwys.

Roedd y tywydd yn rhannol gyfrifol am y cynnydd yn 2015-16, gyda 50% yn rhagor o haul o gymharu â’r flwyddyn gynt – hynny’n golygu bod mwy o bobol allan yn amlach a bod y ddaear ei hun ac yn fwy tebyg o losgi.