Ryan Giggs (soccer.ru CCA3.0)
Mae cyn-seren bêl-droed Cymru, Ryan Giggs, ynghanol gwrthdaro tros ddatblygiad moethus yng nghanol dinas Manceinion.

Mae’r corff hanesyddol, Historic England, yn dweud bod ei gynlluniau ef a’r cyn-chwaraewr arall, Gary Neville, am wneud difrod mawr i olwg y ddinas.

Fe fyddai’r cynllun, gyda’i ddau skyscraper, ei esty, fflatiau moethus, swyddfeydd, siopau a synagog yn “gwrthdaro” gydag adeiladau dinesig mawreddog y canol, meddai’r corff.

Roedd Gary Neville a Ryan Giggs wedi cyhoeddi eu cynlluniau ym mis Gorffennaf y llynedd gan ddweud y byddai datblygiad St Michael’s yn “ddatganiad pensaernïol”.

Mae 4,500 o bobol hefyd wedi arwyddo deiseb i geisio achub hen dafarn yr Abercromby a fyddai’n cael ei chwalu gan y cynllun, sy’n anelu’n benna’ at dwristiaid a phobol gefnog.