Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog mewn banc yn Nhreganna, Caerdydd ddoe.

Roedd dyn gyda chyllell yn ei feddiant wedi bygwth staff ym manc Lloyds TSB ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen am 3.45yp ddydd Llun, 13 Chwefror cyn ffoi gydag arian parod.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 5’10 o daldra, yn ei 30au cynnar ac o faint tenau. Roedd yn siarad gydag acen leol. Roedd yn gwisgo siaced dywyll gyda ffwr ar yr hwd, trowsus tywyll a trainers gwyn.

Dywed yr heddlu bod Lloyds TSB yn cynnig gwobr o £25,000 am wybodaeth a allai arwain at ddedfrydu’r person oedd yn gyfrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan nodi’r cyfeirnod *056938 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.