Pier Bae Colwyn
Bydd cabinet Cyngor Conwy yn heddiw yn trafod dyfodol Pier Fictorianaidd Bae Colwyn ar ôl i ran o’r pier ddymchwel ar ddechrau’r mis.
Bydd cynghorwyr yn ystyried argymhelliad brys sydd yn awgrymu y dylai rhan o’r pier gael ei dynnu i lawr er lles diogelwch y cyhoedd.
Cafodd cyrff yn cynnwys CADW ac Ymddiriedolaeth Pier Fictoria eu hymgynghori ynglŷn â’r penderfyniad ac mae’r cyngor yn awgrymu y dylai rhannau o’r pier sydd o werth treftadol gael eu cadw a’u storio.
Adeilad Gradd II
Cwympodd rhan bellaf y pier Fictorianaidd, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, i’r môr ar ddechrau’r mis.
Mae’r ddogfen yn rhagweld y bydd mwy o’r pier yn cwympo yn y dyfodol ac mi fydd yn parhau i fod yn beryglus i’r cyhoedd.
Daw’r ddogfen hefyd i’r casgliad mai erydiad yr adeiledd fu’n gyfrifol am y difrod yn hytrach nag effaith tywydd garw.
Cafodd y pier ei chau yn 2008 ar ôl i’r perchennog, Steve Hunt fynd yn fethdalwr a chafodd cais gan y Cyngor Sir i’w dymchwel ei wrthod yn 2015.