Morlyn llanw Abertawe
Mae Aelodau Cynulliad yn cynnal dadl heddiw ar gamau nesa’r cynllun i ddatblygu morlyn llanw’r môr yn Abertawe yn dilyn adroddiad cadarnhaol am y diwydiant gan Charles Hendry.

Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i groesawu’r adroddiad gan alw ar Lywodraeth Prydain i gysylltu’n “barhaus” â Llywodraeth Cymru gan sicrhau y bydd Cymru’n manteisio’n economaidd o’r datblygiad.

Ond mae Plaid Cymru wedi mynd gam ymhellach drwy annog Llywodraeth Cymru i gymryd cyfran ym mhrosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe ar y cyd â Llywodraeth Prydain.

Dywedodd Simon Thomas wrth gynhadledd y wasg heddiw y byddai am i Lywodraeth Cymru fuddsoddi cyfran yn y morlyn a hynny’n debyg i faint gafodd ei fuddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, sef £52 miliwn.

Cymru – ‘enw drwy’r byd’

“Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth Lafur gymryd cyfran ecwiti ym Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau y bydd y prosiect yn digwydd,” meddai AC Plaid Cymru, Simon Thomas.

“Rydym yn ymfalchïo yn fawr yn llwyddiant ein timau chwaraeon yn rhyngwladol, ond dychmygwch sut y buasem ni’n teimlo petai gennym un o ddiwydiannau blaenaf y byd ger ein glannau,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw’n “croesawu’r” adroddiad ac yn ystyried ei gynnwys cyn trafod y camau nesaf gyda Llywodraeth Prydain.

Cefndir

Cafodd adroddiad Charles Hendry ei gyhoeddi ym mis Ionawr, sy’n golygu bod y cwmni Tidal Lagoon Power gam yn nes at sicrhau cymhorthdal gan Lywodraeth Prydain ar gyfer morlyn yn Abertawe fydd yn costio £1.3 biliwn.

Bydd y morlyn yn cynnwys adeiladu morglawdd siâp U ar yr arfordir, gydag olwynion dŵr i geisio casglu llanw’r môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae’r bobol y tu ôl i’r prosiect yn dweud y gallai’r morlyn gynhyrchu digon o ynni ar gyfer 155,000 o dai am 120 o flynyddoedd.