Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy heddiw.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r safle ar Ffordd Weighbridge am 12.05yp ddydd Llun, 6 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan lori.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil Harrison bod dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa a’i fod yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu gan nad oedd y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ffordd gyhoeddus, meddai’r heddlu.