Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau wedi i lanc 18 oed gael ei saethu’n farw mewn cerbyd ger tafarn yn Llanbedrog, Pwllheli.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi hanner nos ddydd Sul yn dilyn adroddiadau am y saethu ger tafarn y Ship yn Llanbedrog. Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Dywed yr heddlu bod y dyn yn dod o’r ardal leol a bod ei deulu wedi cael gwybod.

Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio a’u holi gan dditectifs.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams o Heddlu’r Gogledd eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un a oedd yn yr ardal nos Sul ac a allai fod wedi gweld nifer o ddynion mewn cerbyd Land Rover Discovery ar y safle, i gysylltu â nhw ar 101.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw.