Cafodd dyn 18 oed ei saethu’n farw yn ei gar yn Llanbedrog neithiwr.

Cafwyd hyd iddo y tu allan i dafarn y Ship, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi canol nos.

Ond fe fu farw yn y fan a’r lle cyn iddo allu derbyn triniaeth.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod.

Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio, ac mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.