Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn £200,000 ar gyfer ymchwil i gelloedd canser.
Bydd yr arian yn mynd at brosiect tair blynedd yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn y Brifysgol, fydd yn edrych ar y ffordd y mae celloedd canser yn tyfu ac yn ymrannu.
Fe fydd y prosiect yn rhoi cyfle i ymchwilwyr astudio sut mae burum, sy’n helpu toes i godi, yn gallu helpu i ddeall ymddygiad celloedd canser.
Fe fydd £199,794 yn mynd at recriwtio Ymchwilydd ôl-Ddoethur ac at brynu cyfarpar.
Sut mae celloedd canser yn gweithio?
Dywedodd un o ddarlithwyr y Sefydliad, Dr Rita Cha: “Nodwedd celloedd canser yw’r modd y maent yn rhannu’n ddi-reolaeth. Mae cell angen egni i rannu.
“Mae ymchwil dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi dangos bod y rhan fwyaf o gelloedd canser yn cael yr egni drwy dreulio swm mawr o glwcos.
“Mae hyn, proses a elwir yn fetabolaeth cell, yn debyg iawn i’r modd y mae burum yn ymddwyn yn y broses eplesiad.
“Bydd cyllid gan North West Cancer Research yn gwella’n dealltwriaeth o’r ffordd y mae burum yn ymddwyn, a byddwn yn ei defnyddio fel model sy’n dynwared sut y mae celloedd canser yn ymddwyn pan fyddant yn defnyddio glwcos wrth rannu.”
“Ymchwil ar y lefel fwyaf elfennol” yw hyn, meddai, “a gyda gwell dealltwriaeth o ymddygiad celloedd canser, gallwn ddarparu sail ar gyfer y camau nesaf ym maes ymchwil canser.”
‘Dim ond y ceisiadau gorau sy’n llwyddo’
Ychwanegodd arweinydd y Sefydliad, Dr Edgar Hartsuiker: “Rwy’n falch bod cais Rita wedi bod yn llwyddiannus. Mae sicrhau cyllid gan NWCR yn broses gystadleuol tu hwnt gyda dim ond y cynigion gorau yn cael eu hariannu a thua 80% yn cael eu gwrthod.
“Mae llwyddiant Rita yn dyst i ansawdd ei hymchwil.”
Ychwanegodd Swyddog Ymchwil y Gogledd Orllewin, Dominique Hare fod Diwrnod Canser y Byd yn “gyfle perffaith” i gyhoeddi’r buddsoddiad.
“Bydd un o bob dau ohonom yn cael ein heffeithio gan ganser ar ryw adeg o’n bywydau.
“Diolch i ymchwil, bydd hanner y bobl sy’n derbyn diagnosis o ganser bellach yn goroesi, sy’n tystio pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i ariannu ymchwil blaengar ac effeithiol, sydd yn ceisio ymrafael â’r cynnydd mewn achosion canser yma yng Nghymru.”