Mae grŵp cymunedol ‘Aberaid’ wedi codi £17,000 at y gost o gartrefu ffoaduriaid yng Ngheredigion.

Bu’r criw o Aberystwyth yn casglu arian dros y We ac mewn lansiad swyddogol diweddar.

Ac mae’r ffaith fod pobol yr ardal wedi dod at ei gilydd i godi’r arian yn dangos bod croeso i ffoaduriaid a mewnfudwyr yng Nghymru, yn ôl un o griw Aberaid.

“Mae o’n neges bositif iawn ac yn ymarferol iawn,” meddai Rocet Arwel Jones.

“Os ydy rhywun yn gofyn: ‘Oce, rydach chi wedi dweud [eich dweud], ond beth ydach chi’n wneud?’

“Wel, mae’r ateb yn glir. Mae’r croeso yma i ffoaduriaid, ac mae’r neges yn glir i bobol sy’n credu yn wahanol.”

294 ffoadur yng Nghymru

Eisoes mae Cyngor Ceredigion wedi ailgartrefu 23 o ffoaduriaid yn y sir, ac yn anelu at roi cartref I 50 dros y pum mlynedd nesaf.

A drwyddi draw yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddara’, mae 294  o ffoaduriaid o Syria wedi dod i fyw i Gymru ers i’r Swyddfa Gartref gychwyn y cynllun i’w hailgartrefu.

Fe gychwynnodd Aberaid gasglu arian tros y We cyn y Nadolig, gyda’r Swyddfa Gartref wedi dweud bod angen i grwpiau cymunedol godi £9,000 er mwyn medru ailgartrefu teulu o ffoaduriaid.

Rhwng y casglu arian ar y We a chynnal noson o adloniant i lansio’r apêl yn swyddogol yr wythnos ddiwethaf, mae £17,000 wedi ei godi at yr achos.