Mae RSPB Cymru wedi galw ar y Llywodraeth ym Mae Caerdydd i ymrwymo i warchod bywyd gwyllt, wrth i adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ddangos fod adar gwyllt yn cael eu herlid.

Yn ôl adroddiad yr RSPB fe gafodd 41 o droseddau’n ymwneud ag adar gwyllt eu cofnodi yng Nghymru yn 2015, 36 ohonyn nhw yn ymwneud ag erlid adar ysglyfaethus.

Cafodd achosion o saethu, defnyddio trapiau a gwenwyno eu nodi hefyd, ac mae’n debyg bod y nifer o droseddau yn uwch nag yn 2014, sef 38.

Ledled gwledydd Prydain, o blith y 92 achos o erlid cafodd eu cadarnhau, fe ddigwyddodd 61% ohonyn nhw yn Lloegr; 29% yn yr Alban; 9% yng Ngogledd Iwerddon ac 1% yng Nghymru.

O’r 196 adroddiad o saethu a difa adar ysglyfaethus mae’n debyg cafodd 16 bwncath, 11 hebog tramor, 3 barcud coch, 1 cudyll troedgoch ac 1 boda tinwyn eu saethu.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru

“Mae angen i’n hadar ysglyfaethus anhygoel gael eu gwarchod hyd yn oed mwy, yn enwedig wrth ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015,” meddai Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru, Stephen Bladwell.

“Mae tystiolaeth yn dal i awgrymu bod angen i adar ysglyfaethus sydd o dan fygythiad, fel y barcud coch a’r hebog tramor, gael mwy o warchodaeth rhag cael eu herlid yn anghyfreithlon. Felly rydym yn galw bod nhw’n derbyn hynny.

“Wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod deddfwriaeth newydd Cymru yn gweithio i warchod bywyd gwyllt o bob math gan gynnwys adar ysglyfaethus, ac yn ymrwymo i gynyddu’r boblogaeth.”