Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i gyhoeddi dyddiaduron Gweinidogion y llywodraeth ar y we.
Bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru bob chwarter, ac yn dangos pryd mae Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr. Mae disgwyl y cyhoeddiad cynta’ ddiwedd mis Mawrth eleni.
Bydd enw’r Gweinidog, y dyddiad, y math o gyfarfod ac enw’r sefydliad neu unigolyn sy’n cael y cyfarfod gyda’r Gweinidog, yn cael eu cynnwys.
Bydd y dyddiaduron yn cynnwys “manylion cyfarfodydd Gweinidogion â sefydliadau allanol a’r digwyddiadau y maent yn mynd iddynt”, yn ôl gwefan y Llywodraeth.
Mae’n debyg bod hyn er mwyn cynyddu tryloywder y Llywodraeth, yn dilyn galwadau ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi eu dyddiaduron.
Mae manylion cyfarfodydd Gweinidogion San Steffan â sefydliadau allanol eisoes yn cael eu cyhoeddi.