Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd yn cadeirio panel arbenigol fydd yn trafod newidiadau posib i etholiadau’r Cynulliad.

Cyhoeddodd Elin Jones mai’r Athro Laura McAllister fydd yn llywio Panel Arbenigol y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol.

Pwrpas y panel fydd i gynghori Comisiwn y Cynulliad ar dri mater:

– y nifer o Aelodau Cynulliad sydd ei hangen;

– y system etholiadol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer ethol yr ACau hynny;

– yr oedran pleidleisio priodol.

Aelodau’r panel fydd Rosie Campbell, Rob Clements, David Farrell, Alan Renwick a Syr Paul Silk.

“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi Panel mor gymwys â gwybodaeth mor arbenigol,” meddai Elin Jones.

“Bydd eu gwaith yn hanfodol i ymdrechion y Comisiwn i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywio dyfodol democratiaeth yng Nghymru.”