Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Fe fydd Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi heddiw sy’n edrych ar ffyrdd i gynghorau ddarparu rhai o’u gwasanaethau ar y cyd.

Bydd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford yn cyhoeddi’r Papur Gwyn fydd yn ystyried ei gwneud hi’n ofynnol i gynghorau weithio’n rhanbarthol, rhoi sylw i faterion yn ymwneud â’r gweithlu, a diwygio’r sustem etholiadol.

Lluniwyd y Papur Gwyn yn dilyn misoedd o drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac fe fydd yn destun ymgynghoriad hyd at ddechrau mis Ebrill.

Yn ystod yr ymgynghoriad bydd galw am sylwadau ynghylch cynigion gan gynnwys caniatáu pleidleisio’n 16 oed ac annog y cyhoedd i gyfrannu at y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau.

Cryfhau’r gwasanaethau

“Dydy’r Papur Gwyn hwn ddim yn gofyn am newid er ei les ei hun,” meddai Mark Drakeford.

“Rhaid i ni ddiwygio llywodraeth leol os ydym ni am gryfhau’r gwasanaethau hyn a’u gwneud yn fwy cadarn i ddygymod â’r galw yn y dyfodol.”