E-sigaret Llun: PA
Mae cynghorydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am atebion i’r “newid sydyn” yn y cyngor meddygol ar e-sigarennau.

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor newydd ar e-sigarennau.

Tra eu bod yn dal i gydnabod fod e-sigarennau’n niweidiol i blant, pobol ifanc a phobol nad sy’n ysmygu, roeddent yn awgrymu y gallai defnyddio e-sigarennau helpu ysmygwyr trwm sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.

Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

‘Ar sail dogma wleidyddol’

Ond, mae’r cynghorydd Elizabeth Evans ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r rheswm dros y newid.

“Dydy’r corff o dystiolaeth ynglŷn ag e-sigarennau ddim wedi newid yn fawr ers i Lafur geisio a methu eu gwahardd nhw. Yr hyn sydd wedi newid, fodd bynnag, ydy’r cymhelliad gwleidyddol,” meddai Elizabeth Evans.

Dywedodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthwynebu’r ymgais i wahardd e-sigarennau ar sail tystiolaeth feddygol.

“Mae angen hyder ar bobol Cymru fod cyngor iechyd ddim yn cael ei benderfynu ar sail dogma wleidyddol,” ychwanegodd.

“Dyna pam mae angen inni ddeall y rhesymau’n llawn tu ôl y newid cyfeiriad sydyn hwn, ac ar ba seiliau y cafodd y penderfyniad ei wneud.”