Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan (Llun: Ben Birchall/PA)
Mae gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal heddiw i nodi ymddeoliad Esgob Llandaf, Dr Barry Morgan ddydd Mawrth.

Mae’r gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn dechrau am 3 o’r gloch.

Bydd e hefyd yn ymddeol – ar ei ben-blwydd yn 70 oed – o’i swydd fel Archesgob Cymru ar ôl 14 o flynyddoedd.

Bydd 120 o offeiriaid yn gorymdeithio ar ddechrau’r gwasanaeth, a Paul Marshall o’r Eglwys yng Nghymru’n talu teyrnged iddo.

Fe yw’r Archesgob Anglicanaidd sydd wedi bod yn ei swydd hiraf.

Fe fu’n Esgob Llandaf ers 17 o flynyddoedd, a chyn hynny roedd yn Esgob Bangor am bron i saith mlynedd.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Archesgob Caergaint, Justin Welby ei fod e wedi bod yn “was rhagorol” ac y byddai “colled fawr” ar ei ôl e.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae menywod wedi cael dod yn esgobion, ac mae e wedi cyflwyno Gwledigaeth 2020, strategaeth er mwyn i’r Eglwys gael tyfu.

Dywedodd Archesgob Caergaint, Justin Welby: “Roedd Barry ar y panel cyfweld ar gyfer fy mhenodi’n Archesgob Caergaint ac roedd yn nodedig am ansawdd a chwrteisi’r cwestiynau a ofynodd.

“Fe wnes i a Caroline aros gyda fe a Hilary ryw ddwy flynedd yn ôl ac fe wnaethon ni sylweddoli dyfnder eu partneriaeth, y cyfraniad y mae hi wedi ei wneud i’w weinidogaeth a’r golled a deimlodd ers ei marwolaeth hi.

“Mae Barry wedi bod yn was rhagorol i’r llefydd lle bu’n weinidog, yn yr Eglwys yng Nghymru a’r Gymundeb Anglicanaidd gyfan.”

‘Effaith bositif’

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae Dr Barry Morgan wedi cael “effaith bositif ar fywydau cynifer o bobol yng nghymunedau crefyddol Cymru”.

“Bu’n fraint cael cydweithio’n agos â’r Archesgob drwy waith y Fforwm Cymunedau Ffydd, y mae e wedi’i wasanaethu ers y cychwyn.

“Dw i’n ddiolchgar am ei gyngor a’i ddoethineb ar faterion sy’n effeithio bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac am ei ymrwymiad di-wyro i hybu gwaith rhyng-ffydd ledled Cymru.”

Hanes a gyrfa

Yn wreiddiol o Waun-Cae-Gurwen yng Nghwm Tawe, daeth Dr Barry Morgan yn Archesgob Cymru yn 2003.

Daeth yn offeiriad yn 1973 ar ôl graddio o Lundain a Chaergrawnt. Fe fu’n rheithor yn Wrecsam a Meirionnydd cyn dod yn Esgob Bangor yn 1993 ac yn Esgob Llandaf yn 1999.

Mae’n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ac yn gymrawd nifer o brifysgolion Cymru.