Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog gyrwyr i feddwl dwywaith cyn teithio ar hyd yr A470 ger y Storey Arms ar Fannau Brycheiniog y penwythnos yma.

Mae disgwyl y bydd oedi hir oherwydd y gwaith ail-wynebu sy’n digwydd, gyda goleuadau traffig, cerbydau hebrwng a chiwiau hir.

Mae heddlu hefyd yn rhybuddio na fydd llawer o le parcio ar ochr y ffordd ac y bydd camau’n cael eu cymryd yn erbyn parcio anghyfreithlon sy’n broblem gynyddol yno.

“Dylai modurwyr sylweddoli bod tagfeydd yn debygol iawn oherwydd y gwaith ar y ffordd a dw i’n gofyn iddyn nhw ystyried a yw eu taith yn wirioneddol angenrheidiol,” meddai’r Rhingyll Owen Dillion o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys.

“Rydym hefyd yn annog pobl i ystyried llwybrau eraill i fyny Penyfan. Mae’r ardal yn Barc Cenedlaethol ac mae llawer o adran Storey Arms o’r A470 yn glirffordd sy’n golygu nad oes hawl i barcio ar ochr y ffordd.

“Mae’r problemau parcio’r ydym wedi eu profi yn y gorffennol wedi creu peryglon i gerddwyr wrth fynd yn ôl ac ymlaen i’w cerbydau, a phroblemau amgylcheddol posibl yn sgil difrod i’r llain las ar ochr y ffordd.”