Mae nifer yr achosion newydd o TB mewn gwartheg ar ei isaf ers 10 mlynedd yn ôl Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.

Soniodd Christianne Glossop am y cwymp wrth annerch Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cangen Sir Benfro o NFU Cymru neithiwr.

Mae dros 95% o fuchesi Cymru bellach heb TB o ganlyniad i brofion mwy sensitif sydd yn darganfod yr haint yn gynt ac yn arafu lledaeniad y clefyd.

Mae disgwyli i nifer y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd TB gwympo dros amser o ganlyniad i ddefnydd o’r profion ac wrth i nifer y buchesi heintiedig barhau i leihau.

Difa moch daear

Gwnaeth y Prif Filfeddyg hefyd sôn am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i beidio ag efelychu ymgyrch difa moch daear Lloegr gan bwysleisio mai bioddiogelwch fyddai’r flaenoriaeth.

Mae nifer yr achosion newydd wedi cwympo 47% mewn wyth mlynedd yn bennaf trwy raglen o gynnal profion amlach a mesurau diogelwch eraill.

Er hyn mae’r Prif Filfeddyg wedi cydnabod bod difa moch daear yn angenrheidiol pan mae buchesi yn cael eu hail-heintio dro ar ôl tro, a pan mae modd profi mai moch daear wedi’u heintio sydd yn gyfrifol.