Paul Flynn, (Llun: O wefan yr AS)
Mae fframwaith cyllidol newydd Cymru fel rhan o Fesur Cymru wedi dyddio’n barod, yn ôl yr Aelod Seneddol Paul Flynn – a hynny oherwydd Brexit.

Fel rhan o Fesur Cymru, fe fydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i gynyddu’r uchafswm benthyca o £500 miliwn i £1 biliwn.

Ond mae Paul Flynn wedi dweud y bydd angen ailystyried y fframwaith hwn ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r fframwaith cyllidol wedi dyddio’n barod achos ei fod yn fframwaith a wnaed cyn Brexit, a nawr rydym yn gwybod fod Cymru’n mynd i ddioddef yn ddifrifol os ydyn ni’n dod allan o’r Farchnad Sengl,” meddai.

Fe wnaeth rhai aelodau o’r Blaid Lafur ddadlau y dylai’r uchafswm benthyca gael ei godi i £2 biliwn wrth adolygu Mesur Cymru.

‘Mynd ymhellach’

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fod y cytundeb yn un “hanesyddol” a “theg”, wrth i Fesur Cymru ganiatáu i Gymru godi trethi.

“Mae’r dyddiau lle’r oedd lefelau gwan o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gallu cael eu beio ar danbrisio canfyddedig wedi mynd,” meddai Alun Cairns.

“Am rhy hir, cafodd cyllid ei ddefnyddio fel esgus am ganlyniadau gwan.”

Fe wnaeth Liz Saville-Roberts, AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, groesawu’r trefniadau cyllido cyn ychwanegu y gallai’r Llywodraeth fod wedi mynd ymhellach.