Ellen Jones a Lewis Rhys Jones, o Ynys Mon (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio o’r newydd am wybodaeth i ddod o hyd i fam a mab sydd ar goll o Ynys Môn.

Fe wnaeth yr heddlu lansio apêl am wybodaeth dros y penwythnos i geisio dod o hyd i Ellen Jones, 36 oed, a’i mab Lewis Rhys Jones, 8 oed, o Borthaethwy Ynys Môn.

Nid yw’r ddau wedi cael eu gweld ers dydd Mawrth diwethaf.

Mae’n debyg iddynt fod yn teithio yn eu car Citroen Zara lliw aur a rhif cofrestru YS52 VTV.

Dywedodd y Prif Arolygydd o orsaf Heddlu Caernafron, Richie Green, fod aelod o’r teulu wedi siarad ag Ellen Jones wedi hynny “ar y ffôn” dros y penwythnos.

“Tra fy mod i’n fodlon nad ydy hi na Rhys mewn perygl brys rwy’n awyddus fod cyfarfod wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal gyda swyddogion arbenigol fel y gallwn ganfod yn gywir ac yn llawn bod y ddau yn iawn a’u hanghenion yn cael eu diwallu,” meddai.

“Tan hynny mae’r ddau yn parhau i gael eu trin i fod ‘ar goll’ ac rydym yn parhau â’n hymdrechion i’w lleoli a siarad â nhw.”

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy gyswllt byw’r we, ffonio 101 neu Daclo’r taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V009157.