Carwyn Jones a Leanne Wood yn lansio'r Papur Gwyn yn Llundain, Llun: Plaid Cymru
Mae Carwyn Jones a Leanne Wood wedi cyflwyno Papur Gwyn heddiw ar y telerau y mae Cymru am eu gweld wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r papur yn canolbwyntio ar chwe maes gan bwysleisio’r angen i barhau’n rhan o’r Farchnad Sengl, a chyflwyno system fudo i’r Deyrnas Unedig yn seiliedig ar swyddi a chyflogaeth.

Mae’r papur wedi’i ddatblygu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru gyda Leanne Wood yn dweud fod y mater yn “rhy bwysig i’w adael i un blaid.”

Mae’r papur yn galw am:

  • barhau’n rhan o’r Farchnad Sengl i gefnogi busnesau, swyddi a ffyniant Cymru.
  • cysylltu’r hawl i fudo â swyddi ac arferion cyflogaeth sy’n amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw’n dod.
  • sicrhau na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i benderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
  • sicrhau perthynas gyfansoddiadol sylfaenol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig – wedi’i seilio ar barch o’r ddwy ochr a chytuno drwy gydsynio.
  • cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol, yn arbennig hawliau gweithwyr ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
  • cynnal ystyriaeth briodol o drefniadau pontio i sicrhau nad yw’r Deyrnas Unedig yn syrthio dros ymyl y dibyn o ran ei pherthynas economaidd ac ehangach ag Ewrop os na fydd cytundeb ynghylch trefniadau tymor hirach ar unwaith pan fydd yn ymadael.

‘Blaenoriaethau Cymru’

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod y papur gwyn yn “canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru ond wedi’i lunio i weithio ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan.”

“Mae wedi’i seilio ar ddeialog a chytundeb rhyngom ni a Phlaid Cymru, felly bydd yn ennyn cryn dipyn o gefnogaeth yn y Cynulliad,” meddai wedyn.

“Mae’n cydbwyso’r neges a gawsom gan bobol Cymru y dylid ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gyda’r gwirionedd economaidd sy’n gwneud cymryd rhan yn y Farchnad Sengl mor bwysig ar gyfer ffyniant Cymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig yn gyfan, yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru, “mae Plaid Cymru wedi gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i ysgrifennu’r Papur Gwyn, ac wrth wneud hynny rydyn ni wedi cryfhau safbwynt negodi Cymru.

“Nawr rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd yr argymhellion hyn o ddifri.”

Llywodraeth y DU i ‘ystyried’ y cyflwyniad

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i’r Papur Gwyn gan ddweud y byddan nhw’n edrych ar y cyflwyniad ac yn “ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws Cymru wrth inni geisio’r ddêl orau posib i’r Deyrnas Unedig gyfan.”

Ychwanegodd y llefarydd, “rydym yn chwilio am drefniant pwrpasol sy’n unigryw i’r Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys mynd ar drywydd cytundeb Masnach Rydd newydd, beiddgar ac uchelgeisiol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Fel y mae’r Prif Weinidog wedi nodi’n glir, dim ond wrth adael y Farchnad Sengl y byddwn ni’n gallu adennill rheolaeth o’n ffiniau.

“Byddai bod allan o’r Undeb Ewropeaidd ond yn y Farchnad sengl yn golygu cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd – gan gynnwys symudiad rhydd pobol – ond heb gael pleidleisio arnyn nhw,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Amaeth – Marchnad Sengl yn ‘hanfodol’

Ar sail materion amaethyddol, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru sy’n galw am barhau’n rhan o’r farchnad sengl.

“Mae’r cynhyrchwyr da byw sy’n cyfrif am y mwyafrif helaeth o ffermwyr Cymru yn hynod ddibynnol ar allforion i’r cyfandir, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn glir ers y refferendwm fod mynediad llawn a dilyffethair yn hanfodol i Gymru,” meddai llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.

Yn ogystal, mae’r undeb yn nodi fod angen cyfnod cyfnewid o leiaf 10 mlynedd i gyflwyno polisïau amaethyddol newydd yn dilyn Brexit.

Dywedodd Glyn Roberts, “mae UAC wedi pwysleisio ers blynyddoedd rôl ehangach amaethyddiaeth wrth gefnogi economi wledig ac ehangach Cymru a dyna pam rydyn ni’n pwysleisio fod angen i amaethyddiaeth gael cyfle i addasu i bolisïau newydd ar ôl Brexit a bod cefnogaeth yn parhau yn unol â gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.”