Carwyn Jones a Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Nid “rhestr siopa” mo gofynion Cymru wrth i Lywodraeth Prydain ddod i gytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Ar drothwy cyhoeddi eu cynlluniau i Gymru ddydd Llun, mae’r ddau wedi cydweithio ar lythyr sydd wedi’i gyhoeddi ym mhapur newydd y Sunday Times heddiw “er mwyn sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru”.

Yn ôl y ddau arweinydd, mae eu cynlluniau ar gyfer Brexit yn “fan cychwyn synhwyrol” ar gyfer y trafodaethau sydd i ddod.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod Cymru’n parhau i gael mynediad i’r farchnad sengl, rhywbeth y mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi’i wrthod hyd yma.

Maen nhw’n dadlau bod y farchnad sengl “mor bwysig i lewyrch Cymru yn y dyfodol”, gan ddadlau nad oedd pobol Cymru wedi pleidleisio i “danseilio miloedd o swyddi”.

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi cyhuddo Carwyn Jones o “ledu diflastod a gwadu, petruso a drysu”.

Y llythyr

Yn ôl Carwyn Jones a Leanne Wood, roedd araith Theresa May yr wythnos diwethaf yn cynnig “ychydig iawn o eglurder” a doedd hi ddim wedi “ennyn hyder”.

Maen nhw wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o “anwybyddu llwyddiant Cymru ar y llwyfan byd-eang”.

“Ry’n ni bod yn allblyg erioed; ym myd busnes a masnach, mewn chwaraeon a’r diwylliant, mae gan Gymru dipyn i’w gynnig i’r byd, ac mae’n gwneud hynny eisoes.

“Rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, nid dechrau o’r dechrau.”

Yn ôl Carwyn Jones a Leanne Wood, mae eu cynllun yn “gynllun cynhwysfawr, credadwy” sy’n “seiliedig ar dystiolaeth gadarn sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru”.

Maen nhw’n dadlau ei fod yn “gydbwysedd” rhwng dymuniad y bobol i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda’r angen am fynediad i’r farchnad sengl.

“Nid rhestr siopa’n unig o ofynion o Gymru mo’r papur gwyn hwn, ond mae’n fan cychwyn synhwyrol ar gyfer trafodaethau a ddylai weithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.”

Mewnfudwyr

Mae’r ddau yn dweud bod mynd i’r afael â mater mewnfudwyr yn “bwysig”, gan alw am “system sy’n deg, system y gall pobol ei deall yn glir ac yn hanfodol, system nad yw’n niweidio’n heconomi na’n gwasanaethau cyhoeddus”.

Rhaniadau

Wrth gyfeirio at y cecru sydd wedi bod rhwng y rheiny oedd yn dymuno aros a’r rheiny oedd yn dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd y llythyr fod “angen symud y tu hwnt i’r dadleuon sy’n ein rhannu a’r diffyg goddefgarwch sydd wedi taro ein gwleidyddiaeth yn y flwyddyn ddiwethaf”.