Mae Heddlu De Cymru wedi arestio bachgen 15 oed, wedi i ferch ysgol gwympo i’r llawr ym Mhorthcawl. Y gred ydi ei bod wedi cymryd y cyffur ‘ketamine’, sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i dawelu ceffylau.

Mewn datganiad, mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoedd i beidio â chymryd y cyffur sy’n rhoi rhithweledigaethau i bobol.

Mae’r ferch wedi’i chludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, ac mae’n derbyn triniaeth yno. Yn ôl yr heddlu, mae disgwyl iddi wella’n llawn.

Mae’r bachgen wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.