Llun: PA
Mae arolwg barn newydd wedi awgrymu y byddai canlyniad Brexit yn debyg iawn petai refferendwm arall yn cael ei chynnal.
Mae canfyddiadau Baromedr Gwleidyddol Cymreig gan Brifysgol Caerdydd hefyd yn dangos bod Cymru yn rhanedig o hyd dros y mater ac nad oes awgrym bod consensws cyhoeddus ynglŷn â Brexit yn ymddangos.
Mae’r arolwg yn dangos bod dros dri chwarter y bobol wnaeth bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ffafrio Brexit meddal neu dim Brexit o gwbl, tra bod pedwar o bob pum person wnaeth bleidleisio dros adael, yn ffafrio Brexit caled.
Ail refferendwm
Mi wnaeth yr arolwg hefyd ddarganfod bod gwrthwynebiad cryf i’r syniad o gynnal ail refferendwm ar y mater ymhlith y rhai oedd am adael yr UE.
Ar y cyfan, roedd 52% o’r bobol gafodd eu holi yn erbyn y syniad o gynnal ail refferendwm, gyda 87% o’r rhai oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a 21% o bobol oedd o blaid aros, yn dangos gwrthwynebiad.
Canfyddiad arall gan yr arolwg oedd bod pobol ar y cyfan yn blaenoriaethu rheoli ffiniau dros fasnach â’r Undeb Ewropeaidd.
Roedd 47% o bobol yn credu bod angen blaenoriaethu rheoli ffiniau gyda 77% o bobol wnaeth bleidleisio i adael a 17% o bobol wnaeth bleidleisio i aros yn arddel y gred hon.
“Rhanedig o hyd”
“Mae Cymru , ac mi fuaswn yn dychmygu, gweddill y Deyrnas Unedig- yn rhanedig o hyd dros y mater” meddai’r Athro Roger Scully yn ei flog ar wefan Prifysgol Caerdydd.
“Mae barn a chanfyddiadau’r ddau grŵp yn wahanol iawn, does dim awgrym bod consensws cyhoeddus ynglŷn â Brexit yn ymddangos.”