Mantell aur yr Wyddgrug, Llun: Amgueddfa Cymru
Mae mantell aur hynafol o ogledd ddwyrain Cymru wedi’i dewis fel rhan o gyfres o wyth o stampiau newydd gan y Post Brenhinol.

Mae’r gyfres sydd ar gael o heddiw ymlaen yn arbenigo ar greiriau a lleoliadau cynhanesyddol ar draws gwledydd Prydain.

Mae Mantell Aur yr Wyddgrug yn dyddio’n ôl tros 3,700 o flynyddoedd i’r Oes Efydd, ac yn cael ei hadnabod fel un o’r enghreifftiau gorau o grefftwaith cyfnod Oes Efydd Ewrop ac wedi’i llunio o ddalen denau o aur.

Cafodd y fantell ei darganfod yn 1833 yn yr Wyddgrug gan grŵp o weithwyr a oedd yn cloddio am gerrig. Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu mai dynes oedd yn gwisgo’r fantell.

Artist o Lundain, Rebecca Strickson, gafodd y gwaith o ddylunio’r stampiau newydd.