Fe fydd rhaglen sy’n helpu rhieni sydd heb waith i allu manteisio ar addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael ei hymestyn.
Bydd rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth sy’n adeiladu ar brosiectau Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn cael ei hestyn hyd at ddiwedd Mawrth 2020 yn ôl cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant heddiw.
Mae’r rhaglen sydd werth £13.5 miliwn, ac sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, yn targedu rhieni sy’n wynebu rhwystrau i’w haddysg, cyflogaeth a’u cyfleoedd i gael hyfforddiant oherwydd anawsterau gofal plant.
Caiff ei chyflwyno ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
“Helpu rhieni i oresgyn rhwystrau”
“Gwyddom fod yna nifer o rwystrau all atal rhieni rhag cael gwaith gan gynnwys y swyddi sydd ar gael sydd ag oriau gwaith hyblyg neu addas a chost ac ansawdd gofal plant,” meddai Carl Sargeant.
“Mae’n dda gen i felly gyhoeddi y bydd y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn cael ei hestyn hyd at Fawrth 31 2020 er mwyn helpu rhagor o rieni sydd heb waith i oresgyn y rhwystrau rhag cael gwaith.”