Y Cynulliad Cenedlaethol
Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad bleidleisio yn y Senedd heddiw dros gefnogi Mesur Cymru ai peidio.

Fe fydd cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei wneud ar y mesur fydd yn datganoli pwerau pellach i Gymru, a hynny’n dilyn trafodaeth arno yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Mae’r mesur wedi bod yn bwnc llosg, gyda rhai gwleidyddion yn ei feirniadu am beidio â mynd yn ddigon pell i ddatganoli’r pwerau sydd wedi’u cadw’n ôl gan Lywodraeth Prydain.

Ac er bod Grŵp Llafur yn y Cynulliad yn cydnabod nad yw’n fesur “y mae Cymru yn ei haeddu,” fe ddaethon nhw i benderfyniad dros nos y byddant yn ei gefnogi yn y Senedd heddiw, Ionawr 17.

Mae Plaid Cymru wedi penderfynu gwrthod Mesur Cymru heddiw gyda “chalon drom” am ei fod yn “rowlio’r setliad datganoli yn ôl” meddai Dai Lloyd.

Fe wnaeth saith o’r grwp bleidleisio yn erbyn cefnogi’r Mesur a thri o blaid cefnogi – doedd Plaid ddim yn fodlon dweud pwy.

“Mae’r teimlad yn gryf iawn” yn erbyn y Mesur o fewn y grŵp, meddai Dai Lloyd.

‘Mwy o sicrwydd’

Dywedodd cadeirydd y Grŵp Llafur, Hannah Blythyn: “Nid yw hwn yn Fesur y byddem wedi’i ddatblygu nac yn Fesur y mae Cymru yn ei haeddu.”

“Fodd bynnag, ar y cyfan bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o sicrwydd cyfansoddiadol i’r wlad a bydd y fframwaith cyllidol yn arbennig yn gam go iawn ymlaen.

“Ar ôl trafodaeth ystyriol, mae’r Grŵp Llafur wedi penderfynu pleidleisio o blaid caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwrw mlaen.”

Mae disgwyl hefyd y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gefnogi, a UKIP yn ei wrthod.

‘Materion dibwys’

Prif nodweddion Mesur Cymru yw trosglwyddo pwerau i Gymru y mae Llywodraeth Prydain wedi’u dal yn ôl, gan gynnwys pwerau trethu, ynni a thrafnidiaeth a phwerau i faterion y Cynulliad.

Wrth gyrraedd ei gyfnod adolygu yn Nhŷ’r Arglwyddi’r wythnos diwethaf, fe ddywedodd yr Arglwydd Elystan Morgan bod “materion dibwys” wedi’u dal yn ôl, a bod hynny’n “sarhad i genedligrwydd Cymreig.”