Mae Heddlu’r De ac arbenigwyr ar ffrwydron wedi ffrwydro cemegion a gafodd eu darganfod ar safle ysgol uwchradd yn ardal Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw amser cinio dydd Sul ar ôl i’r cemegion gael eu darganfod ar safle Ysgol Uwchradd Y Pant yn Nhonysguboriau.

Cafodd y cemegion eu symud oddi ar y safle i Ysgol Gynradd Gymunedol Meusgyn.

Dydy’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus, a dydy’r cyhoedd ddim mewn perygl.