Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn barod i “yrru economi Cymru tros glogwyn”, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Yn ôl y papurau newydd Prydeinig, mae disgwyl i Theresa May alw am ‘Brexit caled’ ddydd Mawrth pan fydd hi’n trafod ei chynlluniau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Leanne Wood, mae oddeutu 200,000 o swyddi yng Nghymru’n ddibynnol ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae hi’n dadlau na ddylai’r Ceidwadwyr fod â’r hawl i beryglu’r swyddi hynny.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood: “Fis Mehefin y llynedd, efallai bod pobol yng Nghymru wedi pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond wnaethon nhw ddim pleidleisio tros yrru economi Cymru tros glogwyn.

“Mae’n ymddangos nawr fod y Prif Weinidog yn bwriadu dilyn y fersiwn fwyaf eithafol o Brexit, gan ein tynnu ni allan o’r farchnad sengl.

“Byddai hyn yn drychineb i swyddi a masnach Cymru.”

Ychwanegodd fod ei phlaid yn “gwrthod sefyll yn ôl a gadael tynged 200,000 o fywoliaethau a’r economi Gymreig ehangach yn nwylo’r Torïaid yn Llundain”.