Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn tanau bwriadol mewn stryd yng Nghaerdydd y bore ma.
Derbyniodd y gwasanaethau brys 14 o alwadau ffôn yn dilyn y digwyddiad yn ardal Llanedeyrn y brifddinas am 4.30yb.
Roedd tri char ar dân yn Awel Môr, ac fe ledodd y fflamau i adeilad cyfagos, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub y De.