Mae’r heddlu yng Nghasnewydd wedi arestio dyn arall ar amheuaeth o lofruddio dyn 41 oed yn y ddinas nos Iau.

Fe fu farw’r dyn yn Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl cael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Keene Street yn y ddinas.

Mae bellach wedi cael ei enwi fel Jan Jedrzejewski, a oedd yn byw yn lleol.

Mae pedwar dyn bellach yn y ddalfa ar amheuaeth o’i lofruddio – sef dau 18 oed ac un 17 oed a gafodd eu harestio ddoe, a’r dyn a gafodd ei arestio heddiw, sy’n 43 oed.

Er nad yw’r heddlu’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd, maen nhw’n dal i apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un a oedd yn yr ardal tua 11pm nos Iau.

Apelio am wybodaeth

Maen nhw’n arbennig o awyddus i siarad â merch yn ei harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar a gafodd ei gweld yn cerdded i mewn i Keene Street ar adeg y digwyddiad. Mae’n cael ei disgrifio fel merch a allai fod o gefndir Affro-Caribïaidd â gwallt tywyll a oedd yn gwisgo cot o liw golau a jîns glas golau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio siarad â bachgen a oedd yn mynd ar ei feic ar hyd Cromwell Road ar draws y ffordd i’r fynedfa i Keene Street a siop y gornel.

Cafodd car hatchback lliw arian 4 drws hefyd ei weld yn troi i Keene Street yn fuan wedi’r digwyddiad, ac mae’r heddlu’n chwilio am y gyrrwr neu unrhyw deithiwr yn y car.

Wrth apelio ar y bobl hyn gysylltu â nhw, pwysleisiodd yr Uwcharolygydd Glyn Fernquest nad oedden nhw mewn unrhyw drwbl ond y gallen nhw fod â thystiolaeth allweddol a allai eu helpu yn eu hymchwiliad.